1,2,(3,4). Nid o'r ddaear mae fy mhleser, Nid o'r ddaear mae fy ngrym; Nid o'r ddaear mae'm llawenydd, Tlawd wyf yma, 'feddaf ddim; Draw'r Iorddonen Mae fy nghyfoeth a fy ngwlad. Dyred hyfryd fore tawel, Dyred hapus ddedwydd ddydd, Pan fo'r dôrau pres i agor, A'r carcharor fyn'd yn rhydd; Rho arwyddion O fod hyny yn nesâu. O gwasgerwch dew gymylau, I'r addewid rhoddwch le; Nid i'r ddaear yma'm ganwyd, Tragwyddoldeb yw fy lle: 'N ol tywyllwch Cwyd o'r diwedd fore wawr. Draed lluddedig, dewch i fynu, Ymestynwch, ddwylaw, mlaen; Draw mae'r wobr, draw mae'r goron, Draw mae 'Mhrïod hawddgar glân: Ffarwel bellach - 'Chofiaf ddim ond pen fy nhaith. - - - - - 1,2,(3). Nid o'r ddaear mae fy mhleser, Nid o'r ddaear mae fy ngrym, Nid o'r ddaear mae'm llawenydd, Tlawd wyf yma - 'feddaf ddim: 'Draw'r Iorddonen, Mae fy nghyfoeth a fy ngwlad. Nef yw meddiant yr angylion, Daear ydyw meddiant dyn; Ond fe ddarfu'm ffydd i wneuthur Nef a daear fawr yn un; 'R wyf yn hòni Hawl i'r oll sydd gan fy Nuw. Mae fy enaid yn ehedeg, Ac yn dringo i fyny fry: Mae fy esgyrn yn ymdrwsio I lechu yn y ddaear ddu; Mi ddo'n gryno Eto 'nghyd ryw ddydd i ddaw.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Mae fy enaid am/yn ehedeg O gwasgerwch dew gymylau 'Rwi'n dy garu er nas gwelais Y mae gwedd dy wyneb grasol |
Not from the earth is my pleasure, Not from the earth is my strength; Not from the earth is my joy, Poor am I here, I possess nothing; Beyond the Jordan Is my wealth and my land. Come, quiet, delightful morning, Come, happy, blessed day, When the doors of brass are to open, And the prisoner to go free; Give signs Of this being drawing near. O scatter the thick clouds, To the promise yield ye place; Not for this earth was I born, Eternity is my place: After darkness Rise eventually, morning dawn! Corrupt feet, come up, Stretch, ye two hands, forwards; Yonder is the reward, yonder is the crown, Yonder is my beautiful, holy Spouse: Farewell henceforth - I will remember only my destination. - - - - - Not from the earth is my pleasure, Not from the earth is my strength, Not from the earth is my joy, Poor am I here- I possess nothing: Beyond the Jordan, Is my wealth and my land. Heaven is the possession of the angels, Earth is the possession of man; But my faith ceases to make Heaven and great earth as one; I am claiming A right to al that my God has. My soul is flying, And climbing up above: My bones are preparing themselves To hide in the black earth; I shall be gathered Together again some day to come.tr. 2016 Richard B Gillion |
|